Ymchwiliad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i Dlodi Tanwydd ac Effeithiolrwydd Ynni yng Nghymru: Tystiolaeth Ysgrifenedig Grŵp Cynefin

 

1.    Cymdeithas tai newydd yw Grŵp Cynefin a ffurfiwyd yn dilyn uno Cymdeithas Tai Eryri a Chymdeithas Tai Clwyd yn gynharach eleni. Mae Grŵp Cynefin yn darparu dros 3,700 o dai ar rent i deuluoedd a phobl ar hyd a lled gogledd Cymru, yn ogystal â thros 700 eiddo fforddiadwy i unigolion a theuluoedd sydd eisiau bod yn berchen ar eu tai eu hunain.

 

2.    Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Tai Eryri yn benodol wedi bod yn datblygu prosiectau arloesol i hybu effeithlonrwydd ynni ac ymdrin â thlodi tanwydd. Ymysg y rhain yr oedd cynlluniau ar gyfer tai newydd, rhaglenni ôl-ffitio mawr, gosod technolegau adnewyddol ac ati, e.e.

 

·         Y Tai Cymdeithasol cyntaf yng Nghymru i’w codi i Lefel 4 y Côd Cartrefi Cynaliadwy (Tai Eithinog, Bangor)

·         Rhaglenni ôl-ffitio mawr y talwyd amdanynt trwy ARBED 1, y Taliad Premiwm Gwres Adnewyddol a benthyca cyfalaf

·         Gosod cyfarpar adnewyddol mawr megis Paneli Haul PV a Phympiau Gwres Ffynhonnell Aer

·         Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth gyda Phrifysgol Bangor i werthuso yn ddwfn brofiadau tenantiaid wedi gosod cyfarpar dan gynllun ARBED 1

·         Y tai cymdeithasol cyntaf yn y gogledd i’w codi i safon Passivhaus (Dwyran, Ynys Môn)

 

3.    Yn dilyn gwerthuso manwl ac ymateb gan y tenantiaid, daeth yn amlwg mai un o’r anghenion mwyaf oedd rhoi cyngor ar dlodi tanwydd ar lefel gymunedol ac ymgorffori ymddygiad ar ynni i’r agwedd hon.

 

4.    I’r perwyl hwn, bu’r prosiect Wardeniaid Ynni Cymunedol ar waith ers 2011 ac y mae’n rhedeg ar hyn o bryd yng Nghaergybi, Caernarfon a Bangor. Mae’r prosiect yn mynd i’r afael â thlodi tanwydd, anweithgaredd economaidd, a lleihau carbon trwy ddarparu lleoliadau gwaith gyda chyflog am 6 mis i bobl sydd y tu allan i’r farchnad lafur, ac sydd wedyn yn gweithio gyda thrigolion ym mhob math o ddaliadaeth tai mewn cymunedau difreintiedig i leihau costau ynni ac allyriadau carbon. Darperir pecyn o gefnogaeth a hyfforddiant o safon uchel, sydd yn rhoi cyfle i’r wardeniaid wella sgiliau a datblygu gyrfaoedd ym maes asesu ynni neu gael cyfle am waith mewn meysydd ehangach. Mae’r wardeniaid mewn mudiadau cymunedol mewn lleoliadau hygyrch yn agos at y cymunedau sy’n cael eu gwasanaethu. 

 

5.    Ers y cychwyn, rhoes y prosiect brofiad gwaith a chymwysterau ychwanegol i bedwar ar bymtheg o unigolion, ac fe aeth y rhan fwyaf ohonynt ymlaen i fwy o waith neu hyfforddiant. Mae bron i bum cant o drigolion wedi elwa o gyngor ar sut i fod yn fwy ynni-effeithlon, arbed arian a lleihau’r defnydd o ynni. 

 

6.    Yn ystod gwanwyn 2014 fe wnaethom ddarn o ymchwil dros Gyngor Gwynedd - prosiect GAE. Yr oedd hwn yn ymchwilio i weld pam fod cyn lleied o bobl yn manteisio ar gynlluniau megis y Fargen Werdd ac ECO, yn adnabod rhwystrau oedd wedi arwain at y sefyllfa bresennol. Gan weithio trwy’r wardeniaid ynni yng Nghaernarfon, grŵp Ynni Llŷn ym Mhen Llŷn, a Menter Tref Werdd Blaenau Ffestiniog, yr ydym wedi casglu ynghyd ymatebion gan gymunedau lleol sy’n teimlo wedi eu heithrio a bod y cynlluniau hyn wedi mynd o’r tu arall heibio iddynt. Nid yw’r adroddiad terfynol eto’n gyflawn, ond dyfynnir mwy ar rai o’r canfyddiadau yn y cyflwyniad hwn.

 

7.    Mae ein hymateb i ymchwiliad y Pwyllgor felly yn seiliedig i raddau helaeth ar y storiâu a’r negeseuon a gyflëwyd i ni trwy gyfrwng yr ymchwil hwn a’r trigolion a’r cymunedau y buom yn eu cefnogi trwy’r Wardeniaid Ynni. I ategu’r sylwadau hyn, yr ydym hefyd wedi cyflwyno fideo byr gyda lleisiau rhai o’r bobl yr ydym yn gweithio gyda hwy a’u profiadau uniongyrchol o dlodi tanwydd - lleisiau sydd yn rhy aml heb eu cynnwys mewn ymgynghoriadau fel y rhain ac sy’n ein dwyn at ein coed ynghylch amgylchiadau fel y maent a pha mor anodd y medrant fod.

 

8.    Awgrymodd cylch gorchwyl y Pwyllgor y meysydd canlynol i ymchwilio iddynt:­

Ø  Edrych i mewn i gynnydd tuag at gwrdd â thargedau statudol Llywodraeth Cymru o ran dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018.

Ø  Ystyried effaith rhaglenni effeithlonrwydd ynni presennol Llywodraeth Cymru (Nest ac Arbed) a mentrau llywodraeth y DU megis y Fargen Werdd.

Ø  Adolygu’r modd y mae’r prif gyflenwyr ynni wedi gweithredu’r Oblygiad Cwmnïau Ynni (ECO) hyd yma a mesurau eraill i liniaru tlodi tanwydd yng Nghymru

 

Dileu tlodi tanwydd yng Nghymru erbyn 2018 a chyflwyno ARBED a NYTH

 

9.    Ers 2003 bu gan Lywodraeth Cymru ddigon o uchelgais o ran gosod targedau i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru- y datganiad diweddaraf oedd y Strategaeth Tlodi Tanwydd oedd â’r nod o ddileu tlodi tanwydd mewn cartrefi bregus erbyn 2010, mewn tai cymdeithasol erbyn 2012 a ledled Cymru erbyn 2018 “cyn belled ag sy’n rhesymol bosib”.

  

10.  Fodd bynnag, pwysleisiodd Erfyn Rhagamcan Tlodi Tanwydd Cymru a ryddhawyd yn 2013 nad oedd y ffeithiau yn cyfateb i’r uchelgais. Dangosodd ffigyrau ar gyfer 2012 fod yr holl gategorïau oedd angen help yn aros yn ystyfnig mewn tlodi tanwydd (33% o aelwydydd bregus, 30% o aelwyd, a 31% o denantiaid tai cymdeithasol).

 

11.  Yn amlwg, mae’r dirwasgiad, codiadau enfawr ym mhrisiau ynni a diwygiadau lles wedi gwneud yr anawsterau’n waeth ac wedi gwaethygu problem oedd yn ddigon drwg eisoes. Dylid felly croesawu’r ffaith nad yw Cymru yn “newid pyst y gôl” ar y diffiniad o dlodi tanwydd fel sydd wedi digwydd yn Lloegr: mae’r diffiniad o 10% o incwm yn ddangosydd ystadegol pwysig gyda gwaelodlinau yn mynd yn ôl flynyddoedd lawer. Fodd bynnag, y ffaith amdani yw bod targedau a osodwyd yn 2003 wedi eu colli yn llwyr, na chyrhaeddwyd y targedau a osodwyd yn 2010, ac nad yw targed 2018 yn edrych yn gyraeddadwy o ystyried lefel bresennol y gweithgaredd.

 

12.  Wedi dweud hynny, yr ydym yn llawn gefnogi rhaglenni presennol Llywodraeth Cymru, ARBED a NYTH, a buasem yn croesawu mwy o gyllid i’w hymestyn ymhellach. Mae lle i wella’r ffordd o gyflwyno ARBED yn y gogledd, a dangosodd profiad yng Ngwynedd nad oes digon o waith yn cael ei gyflwyno trwy gadwyni cyflenwi lleol. Yr ydym yn pryderu hefyd nad yw ardaloedd gwledig yn cael eu targedu’n ddigonol gan y cynllun, a’u bod yn perfformio’n wael yn y system sgorio a ddyfeisiwyd ar gyfer y rhaglen. Buasem yn cytuno gyda sylwadau eraill fod angen dyrannu llawer mwy o adnoddau i dargedu ardaloedd gwledig oherwydd bod costau ynni yn uwch ac ymyriadau yn ddrutach.

 

13.  Mae llawer o bethau da am NYTH, a datblygodd ein Wardeniaid Ynni berthynas waith dda gyda’r prosiect. Mae’r wefan a’r deunyddiau a gynhyrchwyd o safon uchel, ond gwaetha’r modd, mae mwy o bobl fel petaent yn cael eu gwrthod na’u cefnogi ganddi, neu’n cael eu troi ymaith oherwydd lefel y prawf modd sydd ei angen. Y canlyniad yw, pan fo’n gweithio, ei fod yn gweithio’n dda, ond nad yw ein wardeniaid sy’n gweithio yn y cymunedau tlotaf yn gweld niferoedd mawr o geisiadau NYTH llwyddiannus yn eu hardaloedd. Maent hefyd yn crybwyll anawsterau gyda chyfeirio o’r sector rhentu preifat, oherwydd er y gall tenant fod mewn tlodi tanwydd enbyd mewn tŷ oer a drafftiog, oni fydd modd perswadio’r landlord i fanteisio ar y cynllun, ni fydd y sefyllfa’n gwella.

 

14.  Byddai o gymorth hefyd pe gellid adrodd data blynyddol am ARBED a NYTH ar sail Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA) er mwyn gallu cymharu lefel yr ymdriniaeth o fewn ardaloedd awdurdodau lleol. Byddai gosod mapiau tlodi tanwydd, fel y rhai a ddatblygwyd yn ddiweddar gan Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Caerdydd,  dros ddata o’r fath yn erfyn defnyddiol i dargedu a chyflwyno’n strategol ar y lefel leol.

 

15.  Yr ydym hefyd o’r un farn ag NEA Cymru fod angen monitro llawer mwy cadarn ar y naill gynllun a’r llall er mwyn sicrhau fod pobl mewn tlodi tanwydd yn well eu byd yn dilyn ymyriadau gan y rhaglenni hyn. Mae gormod o’r monitro yn digwydd wrth ddesgiau, heb fod yn seiliedig ar filiau cynt a chwedyn, a phrofiadau trigolion.

 

16.  Y pwynt sylfaenol am y naill gynllun a’r llall yw nad ydynt yn cael eu cyllido yn ddigonol er mwyn sicrhau y cyrhaeddir y targedau tlodi tanwydd erbyn 2018.

 

Y Fargen Werdd ac ECO

 

17.  A siarad yn hollol blaen, bu cyflwyno a lledaenu’r Fargen Werdd ac ECO yn ein hardal yn drychinebus.

 

18.  Yn ystod 2013 fe dreuliasom lawer o amser yn ymchwilio i’r bargeinion ECO oedd yn cael eu cynnig gan y cyfleustodau a chwmnïau eraill. Yr oeddem yn croesawu’r ffaith fod ardaloedd gwledig yn cael eu targedu am y tro cyntaf gan gyllid o’r fath (er mor fychan ydoedd). Yr oedd perygl amlwg, fodd bynnag, yn rhai o’r contractau ECO, pe na bai arbedion Co2 yn cael eu cyflwyno, yna na fyddai’r prosiectau yn gwneud synnwyr yn ariannol. Gwnaeth Datganiad Cyllideb y DU yn Hydref 2013 raglen gymhleth yn anos fyth. Nid yn unig y torrwyd y cyllid ar adeg bwysig, ond fe welsom hefyd sut y gallai darparwyr ECO dynnu’n ôl gontractau ac arian a neilltuwyd o gontractau mawr gyda chymdeithasau tai - yn sicr, bydd elfen o “cas gan gath y ci a’i bratho” yn ein sector o ganlyniad. Mae ein diddordeb yn y rhaglenni hyn wedi pylu ers y newidiadau hyn.

 

19.  Ym mis Ionawr 2014 rhyddhaodd DECC ffigyrau am nifer Asesiadau’r Fargen Werdd a wnaed yn etholaeth pob AS am y flwyddyn a aeth heibio. Dyma ffigyrau Gwynedd a Môn

 

 Arfon    73           Dwyfor Meirionnydd      24     Ynys Môn 49

 

Ni chafwyd gwybodaeth am faint o asesiadau a droswyd wedyn yn becyn y Fargen Werdd - mae’n debyg bod y mwyafrif ohonynt heb gael eu trosi. Mae perfformiad mor wael yn hynod siomedig o gofio natur cymaint o’r stoc tai yn ein hardal (cyn 1900, waliau solet, heb nwy), a hefyd yn enwedig am ardaloedd fel Penrhyn Llŷn a nodwyd yn ddiweddar gan y SYG fel un o’r ardaloedd sydd â’r lefelau uchaf o dlodi tanwydd yn y DU.

 

20.  Fel y crybwyllwyd eisoes, yng ngwanwyn 2014, fe wnaethom gynnal prosiect GAE o ymchwil cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog, penrhyn Llyn ac ardaloedd Cymunedau’n Gyntaf yng Ngwynedd. Llenwyd cyfanswm o 295 holiadur, gyda thua’r un faint yn fras o ganlyniadau yn cael eu derbyn o bob ardal, ynghyd â 29 ateb arlein trwy Survey Monkey. Rhedodd pob grŵp hefyd nifer o grwpiau ffocws.

 

21.  Yr oedd yr ymchwil yn archwilio ymwybyddiaeth a gwybodaeth trigolion am filiau ynni a’r hyn yr oeddent yn feddwl am wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi. Yn frawychus, nid oedd 47% o’r rhai a gymerodd ran erioed wedi clywed am y Fargen Werdd ac ni wyddai mwy na thri chwarter beth oedd y  Fargen Werdd (76%, n=212). [1]. Daeth yr adroddiad i’r casgliad …

 

“Mae diffyg ymwybyddiaeth enbyd o brif gynllun effeithlonrwydd ynni llywodraeth y DY, y Fargen Werdd, yn y pedair ardal a aseswyd. Nid oedd dros dri chwarter y trigolion a holwyd yn gwybod beth oedd y Fargen Werdd  a dim ond 18% sy’n ei deall. Mae’r canlyniadau hyd yn oed yn fwy difrifol o ystyried canlyniadau cynharach oedd yn dangos fod gan y boblogaeth hon ddiddordeb mawr mewn effeithlonrwydd ynni a’u bod yn ystyried fod gostwng eu biliau ynni yn bwysig iawn. O’r 18% sydd yn deall y Fargen Werdd, mae’r rhan fwyaf wedi ystyried manteisio ar y gwasanaethau a gynigir (15% o’r cyfanswm). Gallai hyn awgrymu, trwy gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, y gallai mwy fanteisio arni. Mae’r diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth hwn yn arwain at ragdybiaethau sydd yn eithrio rhai trigolion o geisio mynd at y Fargen Werdd.  Mae profiadau drwg gan rai o’r ychydig sydd wedi mynd at y gwasanaethau sydd ar gael yn arwain trigolion i ddweud nad ydynt yn ymddiried yn y cynllun neu nad ar eu cyfer hwy y’i bwriadwyd. Mae trigolion wedi dweud dro ar ôl tro nad yw’r system yn eglur a’i bod yn rhy gymhleth; sydd yn dystiolaeth bellach o’r angen am fwy o help a gwybodaeth leol y gellir ymddiried ynddo i helpu mwy o bobl i fanteisio.”

 

22.  Dywed yr ymateb gan ein wardeniaid a’n hymchwil cymunedol hefyd fod “ECO” yn peri dryswch gan fod pobl yn tybio mai disgrifio camau amgylcheddol-gyfeillgar y mae y gallant hwy neu fudiadau eu cymryd; yn hytrach na rhaglen gyllido benodol y gallant hwy ei chyrchu.

 

23.  Croesawyd y cyhoeddiadau am fwy o gyllid ARBED yn 2013 i ychwanegu gwerth at brosiectau ECO, er eu bod braidd yn hwyr yn y dydd ac wedi eu nodweddu gan weinyddu di-drefn - nid yw terfynau amser ym mis Rhagfyr lle bydd angen gorffen y gwario y mis Mawrth canlynol yn ennyn hyder yn y gweinyddwr ac yn gwneud prosiectau yn anos i’w cyflwyno ar lawr gwlad.

 

Lleisiau o’r rheng flaen – safbwyntiau Wardeniaid Ynni Cymunedol Grŵp Cynefin

 

24.  Fel y dywedwyd eisoes, bu’r Wardeniaid Ynni Cymunedol yn gweithio yn rhai o gymunedau mwyaf difreintiedig Gwynedd a Môn. Ymysg y gwasanaethau a ddarperir gan y wardeniaid mae:

 

·        Ymweliadau â thai preifat a thai cymdeithasol i gynghori’r trigolion yn bersonol ar sut i arbed ynni

·        Rhoi gwybodaeth am y tariffau gwahanol sydd ar gael

·        Cyfeirio at y Disgownt Cartrefi Cynnes, NEST, ECO a’r Fargen Werdd lle bo hynny yn briodol.

·        Cyngor ar gamau syml i leihau costau a sut i wneud tai yn fwy clyd

·        Dulliau o adnabod pobl fregus sydd mewn tlodi tanwydd a’u cyfeirio at yr asiantaethau perthnasol.

·        Cyngor am ddefnydd a gosodiadau cywir systemau gwresogi.

·        Gosod cyfarpar rhag drafftiau, adlewyrchyddion rheiddiaduron a bylbiau golau ynni isel

·        Rhoi adborth am osodiadau ynni a chostau ynni.

·        Cydweithio ar ddigwyddiadau cymunedol i godi ymwybyddiaeth am, sut i ddefnyddio llai o ynni.

 

25.  Maent wedi nodi’r pwyntiau isod fel rhai o’r pynciau pwysicaf sy’n codi wrth weithio gyda thrigolion yn yr ardaloedd hyn [2]

 

Mesuryddion talu-ymlaen-llaw

 

26.  Mae llawer (os nad y cyfan) o’r cleintiaid mewn tlodi tanwydd a welwn yn defnyddio mesuryddion talu-ymlaen-llaw. Yn ystod ymgynghoriad GAE, casglodd y wardeniaid 120 holiadur o Gaernarfon a Bangor - o’r rheiny, yr oedd 90 o ymatebwyr ar fesuryddion talu-ymlaen-llaw.

 

27.  Mae llawer o’r cleientiaid yn llawn ymwybodol fod mwy yn cael ei godi arnynt, ond mae’n well ganddynt aros ar y tariffau uwch. Efallai nad yw eraill yn llawn ymwybodol o’r tariffau uwch ond yn dewis peidio a newid hyd yn oed pan esbonir y  sefyllfa wrthynt. I lawer ar incwm isel ac sy’n delio a thlodi, eu dull o oroesi yw cyllidebu fesul wythnos, ac y maent yn gorfod gweld yn union faint o arian sydd ar ôl yn y mesurydd. Mae’r farchnad yn ychwanegu at dlodi tanwydd oherwydd bod y cyfleustodau yn dal i godi gormod ar y defnyddwyr tlotaf am y gwasanaeth hwn sydd fwyaf angenrheidiol iddynt.

 

28.  Yr ydym hefyd yn gweld “trap tlodi” i bobl sydd eisiau symud o fesuryddion talu-ymlaen-llaw. Mae llawer rhwystr i newid tariff, ac un ohonynt yw’r gred gyffredin fod isafswm cost o £60 i newid i dariff arall o fesurydd talu-ymlaen-llaw. Cawsom dystiolaeth hefyd (ar y fideo) y bydd cyfleustodau yn atal pobl sydd allan o waith rhag symud i becynnau debyd uniongyrchol neu danwydd deuol. Dengys tystioaleth y fideo enghraifft o gwmni sydd eisiau isafswm taliad o £20 os aiff y mesurydd yn wag.

 

29.  Mae’r wardeniaid hefyd wedi gweld amrywiaeth eang o “daliadau sefydlog”  ar fesuryddion talu-ymlaen-llaw yn amrywio o 85c-£1.50 yr wythnos am nwy a £1.50-£3.00 am drydan. Nid yw’n amlwg ar yr olwg gyntaf pam fod gan wahanol gwmniau daliadau mor wahanol a pham nad oes un tâl sefydlog cyson ar waith.

 

Cynhwysiant digidol

 

30.  Dywedodd y wardeniaid hefyd fod problem sylweddol yn ymwneud ag eithrio digidol a’r methiant yn sgil hynny i gyrchu’r rhyngrwyd a newid cyflenwr. Yn llawer o’r ardaloedd lle’r ydym yn gweithio, mae pobl o hyd heb fynediad at y rhyngrwyd ac y mae hyn yn broblem arbennig i bobl dros 60 oed lle disgrifir y defnydd o TG fel ‘prin iawn’. Mae’r defnydd o ffonau clyfar ac aps yn gyfyngedig oherwydd bod y gwasanaeth 3G yn dameidiog neu heb fod yno o gwbl. Y ffurf mwyaf cyffredin o gyfathrebu y daethom ni ar ei draws yw ffonau talu-wrth-ddefnyddio.

 

Disgownt Cartref Cynnes

 

31.  Mae’r Disgownt Cartref Cynnes yn rhwyd ddiogelwch hanfodol ac nid oes modd gorbwysleisio mor werthfawr y mae i lawer o bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Rhwng Hydref 2013 – Mawrth 2014 helpodd y Wardeniaid Ynni Cymunedol 61 cais gyda gwerth o £8,175.

 

32.  Fodd bynnag, dywed ein wardeniaid fod llawer o bobl heb wybod fod y disgownt ar gael iddynt, a dryslyd iawn yw’r ffaith fod gan yr holl wahanol gyfleustodau wahanol amserlenni a threfniadau gwneud cais. Fel arfer, ar wefannau yn unig y mae’r wybodaeth angenrheidiol. Mae llawer o rwystrau gweinyddol hefyd all daflu cais oddi ar y trywydd, ee, os nad oes gan y cleient wybodaeth lawn am ddyddiadau o newid cyflenwr ynni. Mae’r Wardeniaid hefyd wedi dod ar draws agweddau anghyson ar draws y cyfleustodau, yn enwedig i gwsmeriaid “heb fod yn grŵp craidd” fel rhieni. Mae cyfathrebu o du’r cwmniau yn wael ac nid yw’n eglur o hyd pam fod rhai cleientiaid yn cael eu cefnogi ac eraill heb gael y gefnogaeth.

 

33.  Yr ydym yn cefnogi’n llwyr ymgyrchoedd prynu ynni ar y cyd megis Cyd Cymru, ond amseru yw popeth, a gellid perswadio rhai cleientiaid i newid cyflenwr ar yr union adeg o’r flwyddyn pan ddaw Disgowntiau Cartref Cynnes ar gael – mae ar y rhan fwyaf o gyfleustodau angen isafswm cyfnod o amser cyn i gwsmeriaid allu gwneud cais am Ddisgownt Cartref Cynnes felly mae’n hanfodol fod gan drigolion yr holl wybodaeth am yr hyn sydd ar gael iddynt ac oblygiadau eu dewis.

 

Addasrwydd gwaith gosod

 

34.  Dengys ein tystioaleth fideo sefyllfaoedd lle mae’r tenant neu berchennog tŷ yn dal mewn tlodi tanwydd hyd yn oed wedi i waith ôl-ffitio gael ei wneud, am bod y costau rhedeg yn uchel o hyd. O ystyried fod prisiau nwy wedi codi dros 120% ers 2005 a’u bod wedi clymu i lawer o ffactorau allanol daearyddol-wleidyddol ac economaidd, nid oes sicrwydd ynghylch pa mor ddiogel at y dyfodol yw gosod miloedd o systemau gwres canolog nwy mewn cymunedau lle mae tlodi tanwydd. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried fel mater o frys ddewisiadau eraill yn y sefyllfa hon sy’n debyg o fod yn broblem tlodi tanwydd enfawr yn y dyfodol.

 

35.  Dangosodd tystiolaeth gan y Wardeniaid Ynni a Thîm Mentrau Cymunedol Tai Eryri fod llawer o bobl heb ddeall mecanweithiau rheoli systemau gwresogi, a bod llawer heb fod yn twymo eu tai yn ddigonol am eu bod ofn y dechnoleg a’r costau allai ddeillio o’i ddefnyddio yn anghywir. Ni ellir gor-bwysleisio pwysigrwydd cyngor call ar ynni gan ffynonellau y gellir ymddiried ynddynt o ran gwneud yn siŵr fod systemau’n cael eu defnyddio’n gywir ac i herio ymddygiad sydd yn gwastraffu ynni.

 

36.   Mae’r sefyllfa mewn ardaloedd gwledig hefyd yn ddifrifol nid yn unig oherwydd diffyg adnoddau gan lywodraeth Prydain a Llywodraeth Cymru ond hefyd am mai cyfyngedig yw nifer yr atebion sydd ar gael. Nid yw insiwleiddio waliau allanol yn ateb i bopeth, ac yn ôl gwaith a wnaed gan yr Athro Colin King ac eraill (gweler prosiect SUSREF) efallai nad dyma’r ffordd orau i drin waliau solet mewn hinsawdd gwlyb a gwyntog fel a geir yng ngorllewin Cymru. Hyd yn oed wedi rhaglen weddol fawr o ôl-ffitio, nid ydym yn glir fel landlord beth yw’r ateb gorau i dŷ â waliau solet a wresogir trwy wresogyddion storio a lle nad oes nwy – amau yr ydym nad ni yn unig sy’n cael y broblem hon a buasem yn croesawu mwy o ganllawiau a thrafodaeth ar sut i ymdrin â hyn.

 

Casgliad

 

37.  Mae’r targed i ddileu tlodi tanwydd yng Nghymru yn bwysig ac y mae angen cadw ato. Gwnaed llawer o waith da, ond nid oes digon o adnoddau i’r rhaglenni presennol ac nid yw’r uchelgais yn ddigonol o gyrraedd y nod.

 

38.  Er enghraifft, dan cyfnod rhaglennu Ewropeaidd 2007-2013, neilltuodd pob rhanbarth yn Ffrainc hyd at 4% o’u Rhaglenni Gweithredol ERDF i fuddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni a mwy o ddefnydd o ynni adnewyddol mewn tai sydd eisoes yn bod. A yw ein rhaglenni Ewropeaidd newydd yng Nghymru mor uchelgeisiol â hyn? Beth wnaiff y Cynllun Datblygu Gwledig i fynd i’r afael â thlodi tanwydd gwledig? Pa ganrannau o’n rhaglenni gweithredol sy’n cael eu neilltuo i’r agenda hon?

 

39.  Teimlwn ei bod yn werth o hyd edrych ar gynlluniau tebyg i’r Fargen Werdd y gellid eu cyflwyno yng Nghymru ond ar ddim cyfraddau llog neu rai isel iawn ac a all ddatblygu trwy fecanweithiau gwarant benthyciadau cylchdro. Mae gwaith diddorol yn cael ei wneud ar hyn yn Sir y Fflint, gyda’r potensial i’w ail-adrodd yn rhanbarthol a/neu yn genedlaethol.



[1] Nid oedd ymwybyddiaeth pobl am gynlluniau Llywodraeth Cymru ddim gwell – dim ond 19% o ymatebwyr oedd wedi clywed am NYTH a 6% am ARBED

[2] Cadarnhawyd llawer o’r pwyntiau hyn gan Fentrau Cymunedol Tai Eryri sydd wedi cael yr un problemau’n union wrth gynnal ymweliadau monitro ynni â phrosiectau ARBED a gosodiadau ffeirio i nwy